Mae Clwb Pêl-droed Reading wedi ymddiheuro i gefnogwyr Caerdydd yn wedi iddynt gael eu cyhuddo o weiddi sylwadau hiliol a homoffobig mewn gêm Cwpan FA yn stadiwm Madejski ddydd Sadwrn (Ionawr 25).

Mae pedwar o gefnogwyr Caerdydd wedi cael eu rhyddhau o dan amheuaeth ar ôl iddynt gael eu harestio gan Heddlu Dyffryn Tafwys ar amheuaeth o weiddi sylwadau hiliol.

Ond, mynnodd Caerdydd dderbyn ymddiheuriad gan Reading yn dilyn datganiad yn stadiwm Madejski yn gofyn i “gefnogwyr oddi cartref” beidio gweiddi sylwadau “annerbyniol.”

Dywed datganiad ar wefan swyddogol Reading: “Hoffwn ymddiheuro i holl gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd nad oedd yn gyfrifol am weiddi sylwadau hiliol a homoffobig.”

“Doedd dim bwriad gennym i bardduo enw da Clwb Pêl-droed Caerdydd na chwaith eu cefnogwyr.”