Mae un o hyfforddwyr Clwb Rygbi Ystradgynlais yn dweud bod y clwb yn ddiolchgar i’r gymuned rygbi am eu cymorth yn dilyn difrod sylweddol i un o’u caeau.
Mae’r difrod wedi’i achosi gan gar yn cael ei yrru ar draws y cae ac yn creu traciau mwd ar ei hyd, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad.
Ac fe ddaw yn fuan ar ôl i’r clwb gymryd rhan yn ymgyrch gymunedol Undeb Rygbi Cymru i helpu clybiau lleol i wneud y defnydd gorau o’u cyfleusterau.
“Ddydd Gwener, ro’n i’n mynd â’r plant i’r ysgol ac wrth gerdded drwy’r cae, fe wnes i edrych draw ac roedd marciau teiars ar y cae,” meddai Gareth Thomas, un o hyfforddwyr tîm y plant, wrth golwg360.
“Ces i sioc o’r mwya’ o weld bod unigolyn wedi gyrru ar draws y cae ac wedi creu traciau dwfn ym mhob man.
“Cae ymarfer yw e, ond mae ein timau plant yn chwarae arno fe hefyd.
Yn ôl Gareth Thomas, fydd dim modd i’r plant chwarae ar y cae am hyd at fis wrth i waith ddechrau i’w drwsio.
Cefnogaeth y gymuned
Ond mae’n dweud y gallai’r gwaith hwnnw fod wedi bod yn gostus oni bai bod y gymuned leol wedi helpu’r clwb.
Ac mae’r hanes wedi mynd ar draws y byd, diolch i’r holl sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda phostiadau wedi cael eu rhannu dros hanner miliwn o weithiau.
“Mae cwmni yn Abertawe wedi dod aton ni i gynnig cwblhau’r gwaith yn rhad ac am ddim, a gosod system ddraenio hefyd.
“Ac mae un o’n noddwyr, bwyty pysgod a sglodion lleol, hefyd yn dweud y byddan nhw’n rhoi bwyd a diod i bawb sydd ynghlwm wrth drwsio’r cae.
“Fel arall, byddai’n rhaid i ni dynnu’r arian allan o’r arian ry’n ni’n ei gynhyrchu ein hunain ac fe fyddai wedi bod yn gostus oherwydd fod angen gosod pridd gyda pheiriant ac yna ail-osod y glaswellt.
“Mae Ysgol Maesydderwen wedi cynnig rhoi benthyg eu cae nhw i ni, ac mae Clwb Rygbi Castell-nedd wedi cynnig cae’r Gnoll i ni er mwyn i’r plant gael ymarfer.
“Chwaraeodd ein tîm cyntaf yn erbyn Blaendulais ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25) ac maen nhw wedi rhoi eu holl elw o’r raffl tuag at ein costau ni.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.”
Ymchwilio i’r difrod
Yn ôl Gareth Thomas, fe fydd gwerth oriau o ddeunydd camerâu cylch-cyfyng yn cael ei adolygu er mwyn dod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol am y difrod.
“Mae gyda ni rywun yn edrych ar y camerâu sydd ar dir busnes ger mynedfa’r clwb.
“Ac wrth gwrs, mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.
“Aeth rhai o’n gwirfoddolwyr ni ma’s ddydd Gwener i geisio dod o hyd i geir â mwd arnyn nhw, a gobeithio y bydd arolwg llawn o luniau camerâu cylch-cyfyng yn cael ei gynnal.
“Ry’n ni wedi cael problemau yn y gorffennol gyda baw ci, a beiciau modur yn mynd dros y cae.
“Bydd angen i ni fuddsoddi eto nawr i osod gatiau ac mae hynny’n mynd i gostio’n ddrud hefyd.”
Mae modd darllen mwy am Glwb Rygbi Ystradgynlais yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.