Mae  carchar Caerdydd ymhlith 16 o’r carchardai “mwyaf heriol” yng ngwledydd Prydain a fydd yn elwa o fuddsoddiad mewn sganwyr pelydr X i wella diogelwch.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £28m er mwyn gosod y sganwyr, ac ymhlith yr 16 carchar fydd yn eu derbyn mae carchar Caerdydd.

Mae’r sganwyr yn “hynod soffistigedig”, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a byddan nhw’n cael eu defnyddio i rwystro carcharorion rhag smyglo cyffuriau, ffonau ac arfau yn eu cyrff.

Bydd y sganwyr yn dechrau cael eu gosod yn y gwanwyn, ac mae disgwyl y bydd pob un yn weithredol erbyn yr haf.

“Rhwystro’r llif”

“Mae technoleg newydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i rwystro’r rheiny sydd yn benderfynol o achosi anhrefn yn ein carchardai,” meddai’r Gweinidog Carchardai, Lucy Frazer.

“Bydd y sganwyr yma yn helpu rhwystro’r llif o ddeunydd gwaharddedig i’n carchardai, ac yn galluogi swyddogion i ganolbwyntio ar adsefydliad.”

Carchardai

Ymhlith y carchardai eraill a fydd yn derbyn y sganwyr mae Exeter, Durham, Preston, Lerpwl, Birmingham, Hewell, Lincoln, Bedford, Norwich, Chelmsford, Winchester, Elmley, Pentonville, Wandsworth, a Bryste.