Dylai teledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Bu’r Pwyllgor Deisebau yn ymchwilio i’r mater ar ôl derbyn deiseb 1,066 llofnod, a bellach maen nhw wedi cyhoeddi eu hadroddiad. 

Mae yna 24 o ladd-dai yng Nghymru, ac o’r rheiny dim ond 10 ohonyn nhw sydd â sustemau teledu cylch cyfyng.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid fel bod modd i ladd-dai osod sustemau o wirfodd eu hunain, ond mae’r pwyllgor wedi dyfarnu bod angen eu gorfodi i wneud hynny.

Eu dadl yw y byddai’n sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad.  Camau eisoes wedi’u cymryd yn Lloegr a’r Alban i wneud y mater yn orfodol.

“Parch ac urddas”

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Janet Finch-Saunders, wedi dweud ei fod yn “hanfodol bod anifeiliaid yn cael eu trin â pharch ac urddas ar bob adeg”.

“Mae’n amser i Lywodraeth Cymru gymryd camau i roi sicrwydd i bawb yng Nghymru fod cyn lleied o ddioddefaint â phosibl yn cael ei achosi i anifeiliaid ar yr adegau hynod sensitif hyn,” meddai.

“Hefyd, credwn ei fod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid digonol i atgyfnerthu’r safonau hyn ac i gymryd camau priodol pan fo angen.”

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ei gwneud yn orfodol i osod a chynnal systemau teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru
  • sicrhau bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd, neu gorff priodol arall, yn cael lefel ddigonol o adnoddau i fonitro a gorfodi’r systemau
  • sicrhau bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael lefel ddigonol o adnoddau i wneud ei gwaith

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Credwn fod lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn fater difrifol iawn ac ymdrinir ag unrhyw achosion o dorri ein rheoliadau fel mater o flaenoriaeth.

“Mae gan ein lladd-dai mwy, sy’n prosesu’r rhan fwyaf o anifeiliaid, eisoes systemau teledu cylch cyfyng. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â gweithredwyr lladd-dai, gan eu cefnogi, ac mae’n cynllun grantiau penodol yn cynnwys cyllid ar gyfer buddsoddiadau er mwyn diogelu lles anifeiliaid.

“Mae hyn yn cynnwys gosod, uwchraddio neu wella teledu cylch cyfyng. Byddwn yn adolygu nifer y lladd-dai sy’n manteisio ar hyn a hefyd y math o fuddsoddiadau a’u maint wrth i ni barhau i ystyried cyfleoedd ar gyfer deddfu.”