Flwyddyn union ers marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala, mae neges llais wedi dod i’r amlwg sy’n awgrymu nad oedd e eisiau gadael Nantes am Gaerdydd.
Bu farw ar Ionawr 21, 2019, wrth i awyren blymio i’r môr yn Guernsey wrth ei gludo o Lydaw i Gymru i gynnal trafodaethau.
Cafwyd hyd i’w gorff yn ddiweddarach, ond dydy corff y peilot David Ibbotson ddim wedi cael ei ddarganfod hyd heddiw.
Bydd cwest y pêl-droediwr yn cael ei gynnal ar Fawrth 16, a’r gobaith yw y bydd unrhyw ymchwiliad yn dod i ben erbyn canol mis nesaf.
Daeth profion cychwynnol i’r casgliad fod lefelau uchel o garbon monocsid ar yr awyren.
Bu farw tad Emilano Sala dri mis ar ôl y digwyddiad, ac fe fu’n dweud cyn ei farwolaeth y dylai’r ddau glwb a chynrychiolwyr ei fab fod wedi gwneud mwy i’w warchod.
Fe fu ffrae rhwng y ddau glwb ers ei farwolaeth ynghylch pwy oedd yn berchen arno, ac mae corff rheoli FIFA eisoes wedi gorchymyn Caerdydd i wneud y taliad cyntaf o ryw £5.2m.
Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal maes o law ar ôl i Gaerdydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mae disgwyl i deyrngedau gael eu gadael y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y dydd, a bydd Nantes yn gwisgo crys arbennig er cof am Emiliano Sala yn eu gêm nesaf, a bydd arian yn cael ei roi i’w glybiau ieuenctid yn yr Ariannin, lle cafodd ei eni.
Ymchwiliad
Mae’r awdurdodau’n dweud bod yr ymchwiliad i farwolaeth Emiliano Sala bron iawn â dod i ben.
Mae’r ymchwiliad eisoes wedi darganfod nad oedd gan y peilot David Ibbotson drwydded i gludo teithwyr ar deithiau masnachol.
Ac mae’r heddlu wedi arestio nifer o bobol yn dilyn y ddamwain, gan gynnwys dyn 64 oed ar amheuaeth o ddynladdiad drwy weithred anghyfreithlon.
Fe wnaeth yr asiant Willie McKay dalu am y daith awyr, ond wnaeth e ddim dewis y peilot na’r awyren.
Ac fe gafodd dau o bobol, Sherry Bray a Christopher Ashford, eu carcharu ym mis Medi am gael mynediad anghyfreithlon i luniau o gorff Emiliano Sala wrth i brofion post-mortem gael eu cynnal.