Mae Kristoffer Peterson, asgellwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi gadael y clwb ar fenthyg.

Mae’n ymuno â chlwb Utrecht yn yr Iseldiroedd, lle treuliodd e dair blynedd cyn symud i Abertawe o Heracles.

Ymunodd y chwaraewr 25 oed â’r Elyrch ym mis Awst, ond prin fu ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf.

Mae e wedi chwarae mewn 11 gêm yn unig, gan sgorio yn y gêm yn erbyn Cambridge United yng Nghwpan Carabao.

Mae gan Utrecht opsiwn i’w brynu fel rhan o’r trosglwyddiad dros dro.