Mae Brychan Llŷr yn credu bod angen rhybuddion amlwg ar boteli a chaniau alcohol, fel sydd yna ar bacedi sigaréts.
Bydd y cerddor yn trafod effaith alcoholiaeth ar ei fywyd mewn rhaglen arbennig ar S4C dros y Sul.
Yn y rhaglen DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall? mi fydd Brychan Llŷr yn datgelu wrth ei hen ffrind iddo dreulio cyfnod yn y carchar yn 2018, am yfed a gyrru.
Bwriad y rhaglen yw sbarduno sgwrs agored a gonest am berthynas y Cymry gydag alcohol.
Ac mae Brychan Llŷr “yn sicr” bod angen chwalu’r tabŵ ynghylch trafod gorddibyniaeth ar alcohol.
“Dw i’n siŵr y bydd yna lot o bobol yn meddwl: ‘Yffarn! Pwy a gredai alle hynna fod wedi digwydd i Brychan Llŷr?
“Ond y ffaith amdani yw y gall e’ ddigwydd i unrhyw un.
“A gyda’r pethau yma, mae dweud y gwirionedd, y trychineb mae e’ wedi achosi, gobeithio, yn mynd i hala pobol i feddwl.”
Chwe photel o win y dydd
Yn 2013 fe gyhoeddodd Brychan Llŷr hunangofiant o’r enw Hunan-anghofiant, gyda’r teitl yn cyfeirio at ei frwydrau gyda’r botel.
Yn y llyfr mae yn disgrifio cyfnod o’i fywyd pan oedd yn yfed chwe photel o win y dydd – “yr un gyntaf gyda fy mrecwast”.
Pen llanw’i alcoholiaeth oedd treulio 28 diwrnod yn anymwybodol mewn ysbyty, treulio dau gyfnod mewn coma a dod yn agos at farw.
Wedi cyhoeddi’r llyfr yn 2013 fe gafodd Brychan Llŷr gyfnod “o rai blynydde” yn sych, cyn baglu.
Angen rhybudd
Mae Brychan Llŷr yn credu bod angen mwy o rybuddion am alcohol.
“Mae pacyn o ffags yn dod gyda neges yn dweud: ‘Mae hwn yn mynd i’ch lladd chi’.
“Dylse potel o alcohol ddod gyda rhyw fath o neges mor rymus, yn hytrach na ryw brint bach yn cyfeirio chi at ryw wefan drink aware.
“Dw i yn meddwl nad oes digon o wybodaeth yn cael ei roi yn eich gwyneb am y peryglon am alcohol.
“Dyw e ddim yn hala pobol i feddwl fel mae pacyn o ffags… bellach, dyw smoco ddim yn dderbyniol. Ddim yn dderbyniol o gwbl… does dim digon o sylw i’r ffaith fod [alcohol] yn laddwr, achos mae Mr Normal eisiau cario ymlaen i fwynhau ei beint heb bod y rhybudd ar y peint.”
Mwy gan Brychan Llŷr am gynlluniau ei fand Jess ar gyfer Steddfod Ceredigion 2020 yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg