Mae seren Hollywood wedi datgelu mai derwydd o Gymru sydd wedi ei ysbrydoli yn ei ran ddiweddaraf.

Doolittle  yw enw ffilm ddiweddaraf yr actor, Robert Downey Jr, ac ef sydd yn chwarae rhan Dr John Doolittle, doctor sydd yn medru siarad ag anifeiliaid. 

Mae wedi penderfynu perfformio’r rhan ag acen lled-Gymreig, ac yn siarad ar podlediad byd enwog Joe Rogan Experience, mae wedi datgelu mai Cymro ecsentrig oedd ei ysbrydoliaeth. 

“Cyn i fi ymrwymo i’r ffilm roeddwn yn google-o ‘doctor Cymreig mwyaf rhyfedd’,” meddai.  “Doeddwn i ddim jyst eisiau gwneud acen Seisnig arall. 

“Mae yna foi o’r enw William Price. Mae’n ddoctor Cymreig gwallgof. Roedd yn neo-dderwydd. Roedd yn credu y gallwn gysylltu â natur ac ati. 

“Anfonais lun o’r dyn gwyllt yma … at y cyfarwyddwr Stephen Gaghan ac mi ddywedodd yntau: ‘Mae hynny’n edrych yn iawn i fi’. Felly dywedais i: ‘Grêt, beth am wneud y ffilm yma!’”

Pwy oedd William Price?

Cymro Cymraeg o Went oedd William Price a oedd ynghlwm â chenedlaetholdeb Cymreig ac ymdrechion i adfer hen gredoau’r derwyddon yn yr 19eg ganrif. 

Roedd yn cael ei ystyried yn ecsentrig ac yn radical, ac roedd yn credu bod proffwydoliaeth hynafol yn darogan y byddai yntau’n rhyddhau Cymru o afael Lloegr. 

Yn ystod ei oes roedd ei berthynas â’r awdurdodau yn un anesmwyth, a bu iddo ffoi i Ffrainc ar ôl cefnogi Terfysg Casnewydd yn 1839.  

Roedd yn frwd o blaid amlosgi – mater dadleuol ar y pryd – a chafodd ei arestio ar ôl amlosgi ei fab ei hun, Iesu Grist, yn 1884.

Joe Rogan a Chymru

Comedïwr o Los Angeles, yr Unol Daleithiau, yw Joe Rogan ac mae pob un o’i bodlediadau yn denu miliynau o wylwyr.

Podlediad â Robert Downey Jr. yw’r diweddaraf, ond digwydd bod yr anturiaethwr o Gymru, Ash Dykes, oedd ar ei bodlediad flaenorol. 

Mae’r cyflwynydd a’r Cymro yn trafod Cymru ar ddechrau’r cyfweliad, ac mae Ash Dykes yn cyflwyno cerflun o ddraig goch yn anrheg.

“Mae Cymru’n brydferth,” meddai’r anturiaethwr. “Mae’n le da. Lot o fynyddoedd. Arfordir hefyd, wrth gwrs. Coedwigoedd a llynnoedd. Da ar gyfer hyfforddi. Dyna le dw i’n hyfforddi.”