Mae Gweinidog Brexit Cymru wedi cefnogi Keir Starmer yn ei ymgais i olynu Jeremy Corbyn yn arweinydd ar y Blaid Lafur.
Mewn neges ar Twitter, mae Jeremy Miles yn dweud bod yr ymgeisydd yn medru “ysbrydoli” aelodau, ac “ennyn ffydd y cyhoedd”.
“Mae yna mwy nag un ymgeisydd cryf yn y ras yma, ond Keir Starmer yw’r ymgeisydd dw i’n ei gefnogi,” meddai.
“Mae gyda Keir weledigaeth radical o gyfiawnder, democratiaeth, ac ysbrydoliaeth.
“Ac mae’n cyfuno hynny gyda’r gallu i’n dychwelyd ni i lywodraeth yn San Steffan fel ein bod yn gallu rhoi’r weledigaeth yna ar waith.”
Cefnogi’r ymgeiswyr
Daw’r cyhoeddiad wedi i fwyafrif o Aelod Seneddol Cymru enwebu’r gweinidog Brexit cysgodol, ac wedi i’r Aelod Cynulliad, Jack Sargeant, ddatgan ei gefnogaeth yntau.
Ymhlith yr Aelod Seneddol Cymreig a enwebodd Keir Starmer mae Anna McMorrin, Carolyn Harris, Chris Elmore, a Geraint Davies.
Bellach mae pump wedi ennill digon o enwebiadau ac yn y ras i arwain y Blaid Lafur: Rebecca Long-Bailey, Lisa Nandy, Jess Phillips, Emily Thornberry a Keir Starmer.
Bydd enw yr arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.