Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith.
Bydd y seremoni wobrwyo yn digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, ac yn dathlu gwaith y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae Cered, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.
“Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw,” meddai Rheolwr Cered, Non Davies
Dywed Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg.”