Mae Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, wedi lleisio ei bryder gan na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Gymraeg yn ystod 2020-21.
Mewn ymateb chwyrn i gyllideb Llywodraeth Cymru, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am adolygiad cyllid, gan ddweud fod yr hyn mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn ei gynnig yn “brin iawn o’r hyn sy’n angenrheidiol i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”
Yn ôl Heini Gruffudd, “fe ymddengys fod y Gymraeg yn fater ymylol y mae modd ei hesgeuluso.”
Mae disgwyl i’r Llywodraeth benodi arbenigwr iaith i lywio rhaglen gynllunio iaith y Llywodraeth ac mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar “bwy bynnag a benodir i gynnal arolwg anghenion ar frys gan nodi’r cyllid fydd ei angen i fynd i’r afael â’r anghenion.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Cymraeg 2050 yn parhau i fod yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru.
“O ganlyniad, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd y cynnydd o £6.5m fel rhan o’r gyllideb graidd yn parhau er mwyn gwireddu blaenoriaethau’r strategaeth.”