Yn dilyn pryderon am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yng Nghaernarfon bydd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, yn cynnal cyfarfod gyda Heddlu Gogledd Cymru – cyfarfod sy’n cael ei ddisgrfio fel un lefel uchel.
Daw’r cais am gyfarfod ar ôl i’r heddlu orfodi gorchymyn gwasgaru 48 awr yn y dref yn ddiweddar i ddelio ag ymddygiad gwrth,-gymdeithasol, yn dilyn digwyddiad yn y bwyty KFC lleol.
Mae gorchymyn o’r fath yn rhoi’r hawl i’r heddlu symud pobol o ardal benodol os ydyn nhw wedi’u hamau o gyflawni trosedd.
Cafodd y gorchymyn ei awdurdodi gan yr Arolygydd Doug Hughes yn dilyn cwynion am bobl ifanc yn ymgasglu ar ben toeau adeiladau yng nghanol y dre, yn ymddwyn yn wrth-gymdeithasol ac yn achosi difrod troseddol yn yr ardal.
“Gweithio gyda’n gilydd”
Mae “gweithio gyda’n gilydd yn allweddol i gael gwared ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol”, meddai Hywel Williams.
‘Os ydym am fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol ymysg pobol ifanc mae angen gweithio gyda’n gilydd i wrthsefyll ymddygiad o’r fath ond yn bwysicach, edrych ar fesurau i atal hyn gyda phlant, pobol ifanc a theuluoedd, yn enwedig gyda’r rhai sy’n agored i niwed.
“Mae arnom angen pwysau cydunol a sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ateb tymor hir, ymarferol i’r mater dybryd hwn ac rwy’n ymwybodol bod trafodaethau cadarnhaol, aml-asiantaethol eisoes yn digwydd.”
“Cyllid cyfyngedig”
Dywedodd fod bobol leol yn “ddyledus i elusennau lleol fel GISDA, sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobol ifanc, ond mae’r gwaith y mae gweithwyr ieuenctid yn ei wneud wedi’i gyfyngu gan gyllid cyfyngedig.”
Eglurodd ei fod wedi gofyn am y cyfarfod brys a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cyfleu ei bryderon a “sicrhau pobol leol fod mynd i’r afael â’r mater hwn yn flaenoriaeth i’r heddlu.”