Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn 28 oed gael ei ladd mewn ddamwain ffordd ym Mhowys ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A495 ger Meifod rhwng 9pm a 9.30pm neithiwr.

Cafodd dyn arall ei gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn ddifrifol.

Mae’r crwner wedi ei hysbysu ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am  ei farwolaeth.

Doedd dim cerbydau eraill yn gysylltiedig â’r ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.