Mae Adam Price yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gymryd “cam yn ôl” ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod llai o dai newydd wedi’u hadeiladu o dan ei arweiniad nag yn ystod y tair blynedd cyn hynny.

Mae arweinydd Plaid Cymru hefyd yn cyhuddo’r prif weinidog o “gamarwain” wrth addo plannu “14,000 o goed bob dydd”, gan ddweud fod y ffigwr yn cyfeirio at Gymru ac Wganda.

Mae Mark Drakeford yn cyfaddef fod rhaid gwneud mwy yn y dyfodol a “phlannu mwy o goed”.

Ond mae Adam Price yn dweud nad yw pethau’n digwydd “ar frys gyda’r llywodraeth hon”, ac fe fanteisiodd ar y cyfle i ategu Alun Davies wrth ddweud y dylai’r prif weinidog fod yn “fwy radical”.

‘Dim byd i glochdar yn ei gylch’

“Fe wnaethoch chi grybwyll, fel un o’r cyflawniadau, adeiladu bron i 480 o dai y mis yn 2019,” meddai Adam Price wrth annerch y prif weinidog.

“Ond o ddyfynnu ystadegau eich llywodraeth eich hun, roedd ffigurau 2016 a 2017 yn 552 a 574 y mis.

“Ac rydych chi hyd yn oed i lawr ryw fymryn ar 2018.

“Dydy hynny’n ddim byd i glochdar yn ei gylch e.

“Pan ddaw i adeiladu cartrefi newydd ar gyfer trigolion Cymru, rydych chi’n cymryd cam yn ôl.”