Fe fydd dau ddyn yn mynd gerbron llys ynadon Prestatyn heddiw ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i yrrwr tŷ bwyta gael ei ladd mewn pentref yn Sir Ddinbych.

Mae’r ddau ddyn yn dod o’r Rhyl.

Bu farw Gabor Sarkozi, 38 oed, a oedd yn dod o Hwngari, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i’w ben nos Fawrth ddiwethaf ym mhentref Galltmelyd ger Prestatyn.

Roedd yntau hefyd yn byw yn y Rhyl, ac yn gweithio fel gyrrwr i’r bwyty Chineaidd Happy Garden yng Ngalltmelyd.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 (os yng Nghymru) neu ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg). Gallwch hefyd ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i glywed gan yrrwr car Mini lliw golau â tho du oedd yn cael ei yrru ar hyd Ffordd Talargoch, Galltmelyd rhwng 10.40pm a 11pm  nos Fawrth, 18 Hydref. Maen nhw’n credu fod gan y gyrrwr a’r teithwyr yn y car wybodaeth hanfodol mewn perthynas â’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth.