Mae plismyn yn chwilio am wybodaeth am achos o fwrgleriaeth yng nghartref gwraig oedrannus ym Mhen-y-bonr ar Ogewr ar Noswyl Nadolig.

Rywbryd rhwng 1.30yp a 3yp ar Ragfyr 24 ,fe ddaeth dyn taclus a pharchus yr olwg i gyfeiriad yn Maddocks Place yn y dref. 

Roedd yn dweud ei fod  wedi’i anfon gan yr eglwys i gadw cwmni i bobol oedrannus yn yr ardal, ac fe ofynnodd i’r hen wraig am baned o de.

Ond yn ddiweddarach, fe ddaeh i’r amlwg fod ei phwrs, yn cynnwys arian parod, wedi cael ei ddwyn.

Mae’r heddlu’n chwilio am y dyn – sy’n dweud ei fod yn dod o Croydon. Mae yn ei 20au hwyr neu ei 30au cynnar, a thua pum troedfedd dwy fodfedd o daldra. Ar Ragfyr 24, roedd yn gwisgo cot law o liw golau, crys tei a throwsus tywyll. Fe gafodd car glas ei weld yn yr ardal tuag adeg ei ymweliad.