Mae dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ger y Foelas Arms, Pentrefoelas.
Un cerbyd oedd yn y digwyddiad neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 28).
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Toyota Rav 4 oedd yn teithio ar hyd yr A5 am oddeutu 9.20 y nos.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.