Bu farw’r bardd, y talyrnwr a’r cyn-ddreifar lori olew, Dai Rees Davies.
Roedd wedi bod yn ymladd lwcemia ers yr haf.
Roedd yn byw yn Rhydlewis gyda’i wraig Vera, ac yn gyn-ysgrifennydd eisteddfod gadeiriol y pentref.
Fe enillodd ef ei hun wobrau lu mewn gwyliau lleol, taleithiol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd yn aelod o dim cystadleuol Ffostrasol gydag Emyr Davies, Gareth Ioan a Iolo Jones.
Y tro diwethaf iddo ymryson gyda nhw oedd yn nigwyddiad blynyddol Gŵyl Fawr Aberteifi yn y Castell ddechrau Mehefin, pan ddaethon nhw’n fuddugol.
Roedd Dai Rees Davies yn feistr ar delynegion a chywyddau teimladwy, yn ogystal ag ar greu caneuon digri.