Rhifyn arbennig y Nadolig o’r gomedi Gavin and Stacey yw’r rhaglen Nadolig fwya’ llwyddiannus ers 2008.
Roedd tua 11.6 miliwn o bobol wedi gwylio’r bennod a oedd wedi ei gosod bron yn llwyr yn Y Barri.
Ac mae’r ffordd y gorffennodd y bennod, gyda Nessa (Ruth Jones, un o gyd-awduron y gyfres) yn cynnig priodi Smithy (James Corden, y cyd-awdur arall) wedi codi gobeithion cefnogwyr bod cyfres arall ar y ffordd.
Mae hi’n ddeng mlynedd ers i’r gyfres ola’ ddod i ben ac mae’r prif gymeriadau erbyn hyn yn rhieni … ond yr un oedd y gwrthdaro rhwng diwylliant Y Barri ac Essex.
Mae’r gyfres yn cael y clod am dynnu sylw ac ymwelwyr i’r Barri ac mae wedi rhoi enwogrwydd i actorion Cymreig fel Ruth Jones a’r digrifwr Rob Bryden.
Yn ôl y BBC, roedd y rhaglen wedi dod o fewn dim i ddenu hanner yr holl wylwyr teledu yn ei slot nos Nadolig.