Roedd yr actores a’r awdures Gymreig, Ruth Jones, wedi codi ofn mawr ar un o’i chyd-berfformwyr wrth holi iddi gymryd rhan mewn rhifyn Nadolig arbennig o’r rhaglen Gavin and Stacey.
Yn ôl ‘Stacey’ (Joanna Page) roedd hi wedi cael ofn wrth i’r Gymraes a chyd-awdures y gyfres gysylltu gyda hi trwy bob ffordd ddigidol bosib.
“Fy syniad cynta’,” meddai, “a chofiwch fod hyn yn dod gan fam i dri o blant sy’n gofalu am dri o blant trwy’r amser – ‘mae hwn naill ai’n rhywbeth gwirioneddol dda, fel y sioe’n dod yn ôl, neu yn rhywbeth rîli rîli drwg.”
Y Barri ar y map
Da oedd yr ateb, gydag edrych ymlaen mawr at y rhifyn arbennig o’r gyfres a roddodd dre’ Y Barri ar y map teledu, gwneud seren o Ruth Jones ei hun a rôl gofiadwy i’r digrifwr o Gymru, Rob Bryden, a nifer o actorion Cymreig eraill.
Ond mae yna ddadlau wedi bod tros y rhaglen hefyd, wrth i ymgyrchwyr hawliau hoyw gwyno bod fersiwn llawn o’r gân Nadolig ‘Fairytale of New York’ yn cael ei chanu, er ei bod yn cynnwys y gair ‘faggot’.
Bellach, mae pobol wedi dechrau gofyn a fydd yna gyfres newydd lawn o’r rhaglen yn y dyfodol.