Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi damwain ffordd yn ardal Penparcau, Aberystwyth nos Sadwrn (Rhagfyr 21).
Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cerbyd Ford Focus lliw arian a cherddwyr, tua 10yh.
Fe gafodd y cerddwyr ei anafu yn ei goes ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Mae plismyn yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysyslltu gyda’r llu ar y rhif 101.