Mae cronfa newydd sy’n cael ei weinyddu ar y cyd gan y Cyngor Sir a Menter Iaith Môn yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg.

Bydd rhaglen ARFOR hefyd yn helpu mentrau ar yr Ynys i dyfu ac i annog pobol ifanc i aros neu ddychwelyd i’r sir.

Nod y gronfa arbrofol, sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, yw creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf yr iaith. Caiff y rhaglen ei weithredu gan Gynghorau Sir Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr hyd nes ddiwedd Mawrth 2021.

Mae ARFOR yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau lleol a gweithgareddau ar draws y pedair ardal.

Bydd y gronfa grantiau werth £350,000 ar gael i gefnogi busnesau lleol cymwys ym Môn ac mae’r Cyngor Sir yn annog ceisiadau am gefnogaeth ariannol.

“Mae busnesau bach yn hanfodol i economi Ynys Môn, ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddarparu cymorth ariannol i brosiectau buddsoddi busnes cymwys,” meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd y portffolio Datblygu Economaidd.

“Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gweld prosiectau busnes yn cynnwys cynhyrchu neu wasanaeth newydd, datblygu marchnadoedd newydd, defnyddio technoleg newydd, a chefnogi arloesedd.

“Yn ogystal, bydd cronfa ARFOR Ynys Môn yn hanfodol wrth ddarparu grantiau ar gyfer cynyddu defnydd y Gymraeg mewn busnes a chadw ein pobl ifanc ym Môn neu hyd yn oed eu galluogi i ddod nôl adref.”