Mae’r Heddlu wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth ar ôl i yrrwr pryd ar glyd gael ei ladd mewn pentref yn Sir Ddinbych.

Mae’r ddau wedi cael eu henwi gan wefan newyddion y BBC fel Gary Bland, (41 oed) a James Siree (21). Mae’r ddau yn dod o’r Rhyl ac fe fydden nhw’n ymddangos o flaen ynadon Prestatyn dydd Llun.

Bu farw Gabor Sarkozi, 38 oed, a oedd yn dod o Hwngari, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i’w ben nos Fawrth ddiwethaf ym mhentref Meliden ger Prestatyn.

Roedd yntau hefyd yn byw yn y Rhyl, ac yn gweithio fel gyrrwr i’r bwyty pryd ar glyd Happy Garden Chinese ym Meliden.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 (os yng Nghymru) neu ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg). Gallwch hefyd ffonio Taclo’r Tacle (Crimestoppers) yn ddienw ar 0800 555 111.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i glywed gan yrrwr car mini lliw golau â tho du oedd yn cael ei yrru ar hyd Ffordd Talargoch, Meliden (sef y brif ffordd drwy’r pentref sy’n arwain tuag at Ddyserth), rhwng 10.40 yr hwyr a 11.00 yr hwyr nos Fawrth, 18 Hydref. Maen nhw’n credu fod gan y gyrrwr a’r teithwyr wybodaeth hanfodol mewn perthynas â’r ymchwiliad â’r llofruddiaeth.