Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth dyn 20 oed gafodd ei arestio gan yr heddlu yn y Drenewydd ym Mhowys.
Cafodd Dylan Garbe-Ashton ei stopio gan Heddlu Dyfed Powys mewn gorsaf betrol toc cyn hanner nos ar ddydd Gwener, Tachwedd 22. Cafodd ei gludo i orsaf yr heddlu yn y Drenewydd mewn fan ond cafodd ei daro’n wael tua 20 munud ar ôl cyrraedd yno.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i’r ysbyty ond bu farw Dylan Garbe-Ashton y diwrnod wedyn.
Dywedodd cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yng Nghymru, Catrin Evans eu bod yn estyn eu cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Dylan Garbe-Ashton, a bod eu hymchwilwyr yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd.
Ychwanegodd ei fod yn “briodol” bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’r amgylchiadau gan fod Dylan Garbe-Ashton wedi marw oriau ar ôl cael ei arestio gan yr heddlu.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu ac mae post mortem wedi cael ei gynnal. Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd achos y farwolaeth ond mae profion ychwanegol yn cael eu cynnal.