Mae dynes oedd yn teithio ar fws deulawr, fu mewn gwrthdrawiad a phont reilffordd yn Abertawe yn gynharach yn y mis, wedi marw.
Roedd Jessica Jing Ren, 36, yn un o wyth o bobol gafodd eu hanafu yn y digwyddiad yn Abertawe ar Ragfyr 12.
Mewn datganiad trwy law Heddlu De Cymru, dywedodd ei theulu ei bod yn “fam a gwraig gariadus” ac “academydd talentog”.
Mae’n gadael gŵr, Wenquang Wang, a merch bump oed, Yushu Wang.
Roedd Jessica Jing Ren wedi ymuno a’r adran gyfrifon yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf eleni o Brifysgol Huanghuai yn Tsieina.
Dywedodd Heddlu’r De bod dyn 63 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
“Rydym yn parhau i apelio am lygad-dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 9.40yb ac am unrhyw un a allai fod a lluniau dash-cam,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900456484.