Mae buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn Ynys Môn yn profi bod pobol yr etholaeth yn “parchu democratiaeth”, yn ôl ei Haelod Seneddol newydd.

Pleidleisiodd pobol Môn o blaid Brexit yn refferendwm 2016, a chanlyniad agos iawn oedd hi – 50.9% o bobol o blaid, a 49.1% yn erbyn.

Ond yn sgil ei buddugoliaeth, mae Virginia Crosbie teimlo bod yr etholaeth yn fwy brwdfrydig nag erioed am yr ymadawiad.

“Os edrychwch ar yr ynys, maen nhw’n ei alw’n ganlyniad cyfartal,” meddai wrth gylchgrawn Golwg. “Roedd bron yn 50:50 [yn refferendwm 2016].

“Felly, sut bynnag wnaeth bobol bleidleisio [yn y refferendwm], roedd pobol wir mor rhwystredig [erbyn hyn] bod Brexit heb gael ei gyflawni.

“Dyna oedd y sefyllfa. Dw i mor browd o’r ynys. Maen nhw’n parchu democratiaeth. Dw i’n credu mai dyna mae’r bleidlais yn ei gynrychioli.”

Ynys ‘aros’ go-iawn?

Enillodd Virginia Crosbie 12,959 pleidlais yn yr etholiad gyda, Llafur yn ail â’i 10,991, a Phlaid Cymru yn drydydd gyda 10,418.

Mae lle i ddadlau mai’r bleidlais ‘aros’ oedd gryfaf ar yr Ynys – roedd ymgeiswyr Llafur â’r Blaid yn gwrthwynebu Brexit caled – a bod y Ceidwadwr ond wedi ennill oherwydd bod yr arhoswyr yn rhanedig.

Ond wfftio hynny mae’r Aelod Seneddol newydd.

“Wnes i gymryd mwyafrif 5,000 rhag Llafur, a wnes i gipio mwyafrif 2,000 i fy hun, diolch yn fawr,” meddai. “Roedd bron â bod yn ogwydd o 10%.”

Aelod Seneddol o Loegr

Un o dde ddwyrain Lloegr yw Virginia Crosbie, ac mae wedi cael ei beirniadu’n hallt gan rhai am nad yw hi’n dod o’r ynys.

Mae’n dweud bod ei thad yn arfer gweithio yng ngorsaf bŵer Wylfa, a’i bod wedi ymweld â’r etholaeth am y tro cyntaf pan oedd yn blentyn.

“Dw i methu cyfri sawl gwaith dw i wedi bod i Ynys Môn,” meddai. “Dw i wedi bod yna gymaint.”

Mae wedi ymrwymo “i wneud fy ngorau glas” a dysgu Cymraeg, mae’n dweud bydd yr iaith yn “flaenoriaeth” i’r Torïaid. Mi dyngodd ei llw yn Aelod Seneddol yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae’n rhentu ar yr ynys, ond mae’n bwriadu prynu tŷ yn y dyfodol agos.

Llawer mwy am oblygiadau’r etholiad yng nghylchgrawn Golwg