Mae dyn 23 mlwydd oed a a gafodd ei drywanu yng nghanol tref Y Barri brynhawn ddoe wedi cael ei enwi gan yr heddlu.
Bu farw Jordan Davies yn dilyn yr ymosodiad a ddigwyddodd o flaen siopwyr tua 4:00 y prynhawn.
Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad wedi bod yn “drallodus iawn” i siopwyr a gweithwyr a oedd yn dyst iddo ar Stryd Holton, ac maen nhw wedi diolch i bobl a geisiodd rhoi cymorth i Jordan Davies.
Meddai Mark O’Shea sy’n arwain yr ymchwiliad ar ran Heddlu De Cymru: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi cymryd bywyd dyn ifanc ac wedi dinistrio teuluoedd.
“Digwyddodd yr ymosodiad yng nghanol tref brysur a hoffwn ddiolch i’r aelodau hynny o’r gymuned a ddaeth i gymorth Jordan ac a wnaeth yr hyn a allent i’w helpu.”
Dywed yr heddlu bod y dyn 24 oed sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn adnabod Jordan Davies.
Mae’r heddlu hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ac yn gofyn am i unrhyw luniau neu fideo o’r digwyddiad gael eu rhoi iddynt.
“Er i lawer geisio cynorthwyo, rydym yn gwybod bod y digwyddiad wedi cael ei ddal ar gamera a byddwn yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw luniau ffôn symudol neu dash-cam i beidio â’i rannu’n gyhoeddus a’i drosglwyddo i’r heddlu.”