Mae dyn 32 oed wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel ar ôl iddo ddiflannu wrth syrffio barcud ar draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul (Rhagfyr 15).
Nid oedd Christopher Goldsworthy, 32, wedi bod mewn cysylltiad gydag unrhyw un ers tua 5pm ddydd Sul.
Roedd Gwylwyr y Glannau a bad achub y RNLI wedi bod yn chwilio amdano yn y dŵr ond bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio oherwydd amodau tywydd gwael.
Roedd Christopher Goldsworthy wedi treulio’r nos mewn corsydd ger Llansteffan cyn gwneud ei ffordd i’r tŷ agosaf. Mae bellach wedi siarad gyda Heddlu Dyfed Powys.