Mae Heddlu De Cymru wedi apelio unwaith eto am wybodaeth am ddyn sydd wedi bod ar goll ers dros saith mis.

Mi wnaeth Kevin David Thomas, sy’n 46 oed, ac yn dod o Lansawel (Briton Ferry), Castell Nedd, gael ei weld diwethaf mewn siop fetio yng nghanol Abertawe ar Chwefror 28. Mae ei deulu yn dweud bod ei ddiflaniad yn gwbl groes i’w gymeriad.

Meddai datganiad gan ei dad, John, a’i chwaer, Shirley, “Rydym am i Kevin wybod ein bod yn ei golli yn fawr iawn, yn enwedig Sammy sy’n wirioneddol golli ei dad. Y cwbl rydym eisiau ydi iddo ddod adre.”

Mae Mr Thomas yn cael ei ddisgrifio fel person gwyn ei groen, sy’n 5’ 8” o ran taldra, a gyda gwallt llwyd byr. Pan y’i gweld diwethaf, rodd yn gwisgo ei ddillad gwaith cyngor, sef trowsus glas tywyll, siaced fleece glas tywyll a chrys polo coch.

Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am Kevin David Thomas i gysylltu â nhw ar 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.