Mae ymgeisydd Llafur yn y Rhondda wedi tynnu nyth cacwn am ei ben trwy ddweud bod gan ymgeisydd Plaid Cymru “obsesiwn â’r iaith Gymraeg”.

Daw sylwadau Chris Bryant mewn fideo ar Twitter – sydd i weld wedi cael ei ddileu – a chyfeirio mae ef at Branwen Cennard.

“Pwy ydym ni eisiau yn Aelod Seneddol ar y Rhondda?” meddai yn y fideo. “Pwy fydd yn ennyn ein hyder wrth sefyll yn y siambr Tŷ’r Cyffredin a dadlau o blaid y Rhondda?

“Ai’r ymgeisydd Plaid Cymru sydd ag obsesiwn â’r iaith Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru?”

Mae’r sylwadau wedi ennyn ymateb tanllyd ar gyfryngau cymdeithasol, ac ymhlith y rheiny sydd wedi ymateb mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru’r Rhondda, Leanne Wood.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi cefnu ar y sylwadau gwrth-Gymraeg yma yn yr 1980au,” meddai ar Twitter. “Mae’n hen bryd am Aelod Seneddol newydd yn y Rhondda.”

Ymgeiswyr

Mae Chris Bryant wedi cynrychioli’r Rhondda ers 2001, ac mi rodd gais aflwyddiannus i fod yn Llefarydd ar Dŷ’r Cyffredin eleni.

Safodd Branwen Cennard yn ei erbyn y llynedd gan ddod yn ail â 7,350 pleidlais. Mi enillodd yr ymgeisydd Llafur 21,096 pleidlais.

Mae’r ymgeisydd Plaid Cymru yn dod o gefndir cynhyrchu teledu, ac roedd hi’n gynhyrchydd ar y rhaglen ddrama wleidyddol Byw Celwydd.