Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau mai corff dyn o Iwerddon oedd wedi ei gladdu mewn mynwent ger Porthaethwy, Ynys Môn 36 mlynedd yn ol.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod ar draeth yn Rhoscolyn, Ynys Môn ym mis Hydref 1983, ond nid oedd y corff wedi’i adnabod cyn iddo gael ei gladdu yn y fynwent.
Ym mis Ionawr 2013, roedd Heddlu’r Gogledd wedi datgladdu’r corff o’r fynwent fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad dyn arall, sef Ymgyrch Orchid. Mae’r ymgyrch yn defnyddio profion DNA i geisio datrys nifer o achosion hanesyddol am bobol ar goll a chyrff anhysbys rhwng 1968 a 2011.
Roedd profion DNA yn dangos nad yr unigolyn hwnnw oedd yn y bedd.
Yn dilyn cyhoeddusrwydd am yr achos yn Ne Iwerddon, roedd teulu Conor Whooley wedi cysylltu gyda’r Garda a Heddlu’r Gogledd.
Roedd Conor Whooley, 24, o Ddulyn wedi bod ar goll ers mis Awst 1983.
Yn dilyn samplau DNA gan y teulu mae’r heddlu bellach wedi gofyn i’r Crwner Dewi Pritchard Jones ail-agor y cwest.
Dywedodd y swyddog sy’n arwain Ymgyrch Orchid, y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon: “Rydym wedi cael digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gofyn i’r crwner geisio ailagor y cwest i adnabod y dyn y cafwyd hyd iddo yn 1983.
“Mae hyn oherwydd y cyhoeddusrwydd yn Iwerddon ac ymchwiliad cydweithredol rhwng y Garda, Gwyddoniaeth Fforensig Iwerddon a Heddlu Gogledd Cymru.”
Mewn datganiad dywedodd teulu Conor Whooley eu bod yn “falch o wybod fod ei orffwysfa olaf a’i fod wedi derbyn gofal gan bobl Môn a Phorthaethwy’n benodol.”