Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig ymhlith dynion, yn ôl un meddyg teulu o Ynys Môn.

Gyda CFfI Cymru ar fin lansio cyfres o bodlediadau sy’n cyfweld ag aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r mudiad, mae un o’r cyfranwyr, Teleri Mair Jones, yn dweud bod salwch meddwl yn dabŵ yng nghefn gwlad Cymru…

“Mae problemau iechyd meddwl yn real iawn yng nghefn gwlad, a dw i’n aml yn clywed am brofiadau pobl a ffermwyr a’u teuluoedd,” meddai Teleri Mair Jones, 31 oed sy’n gyn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ar Ynys Môn.

Er nad oes ganddi brofiad personol o fyw gyda salwch meddwl, mae’r meddyg teulu o Lynfaes, Ynys Môn yn adnabod nifer o deuluoedd o gefn gwald sydd wedi eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.

“Dwi’n meddwl bod ffermwyr yn llai parod na lot o bobl i rannu eu teimladau gan fod lot ohonynt yn ‘browd’ iawn ac mae ’na dal tabŵ dw i’n teimlo ynghylch iechyd meddwl yn enwedig ymhlith dynion.

“Er hyn, dw i’n meddwl fod pobl yn tueddu i fod yn fwy agored y dyddiau yma achos er bod yna tabŵ mae pethau fel wythnos iechyd meddwl a’r cyfryngau yn araf bach yn tynnu hwn oddi yno ac felly mae pobl i weld yn fwy parod i rannu eu teimladau a’u profiadau erbyn hyn.”

Mae’r mudiad yn Eryri a Môn wedi cynnal nosweithiau yn trafod iechyd meddwl, meddai, ac mae hi’n teimlo bod hyn yn gam positif ymlaen.

“Y pethau mwyaf cyffredin o fy mhrofiad i ydi poeni am sefyllfa ariannol, yn enwedig os ydi hi wedi bod yn dymor anodd,” meddai Teleri Mair Jones.

Er enghraifft, y  llynedd a’r flwyddyn cynt, gaeaf caled o ran y tywydd oedd un o’r ffactorau mwyaf, meddai eto.

Credir mai iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yng Nghymru a Lloegr.  Mae o leiaf un ffermwr sydd â phroblem iechyd meddwl yn cymryd eu bywyd eu hun bob wythnos yng ngwledydd Prydain, yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2018.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymhlith y rheini sy’n gweithio mewn swyddi amaethyddol penodol fel cynaeafu cnydau a magu anifeiliaid (SYG, 2018).

Ar bigau’r drain am Brexit

Heb os nac oni bai, mae’r hinsawdd wleidyddol sydd ohoni yn chwarae ar feddyliau amaethwyr, meddai, ymhlith nifer o ffactorau eraill.

“Mae lot i weld yn poeni am yr ansicrwydd ynghylch Brexit, prisiau cig a llaeth ac ati ar hyn o bryd,” meddai Teleri Mair Jones.

“Dw i wedi trafod gyda ffermwyr sy’n poeni am ddyfodol y byd amaeth gyda’r holl gyhoeddusrwydd negyddol sydd wedi bod gan ambell i grŵp hawliau anifeiliaid, feganiaeth ac ambell raglen deledu sydd wedi bod.”

Yng nghefn gwlad, mae’n anodd, mae’n egluro, am fod yna unigrwydd yn rhan amlwg o fyd amaeth.

“Mae llawer o bobl yn teimlo yn eithaf ynysig felly mae’n bwysig rhannu eu teimladau gyda theulu neu ffrindiau, cael cylch cymdeithasol eang, a rhyw ffyrdd amrywiol o ymlacio,” meddai.

“Mae cael hobïau yn syniad da hefyd, fel ymuno gyda mudiad y ffermwyr ifanc. Ac mae’n hollbwysig mynd i weld eu meddyg teulu os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw angen trafod opsiynau fel cwnsela, tîm iechyd meddwl, meddyginiaeth ac ati.”

‘CFfI a Fi’

Bydd cyfres o bodlediadau newydd yn cael ei lansio gan CFfI Cymru ddydd Sadwrn yma, 30ain Tachwedd – ‘CFfI a Fi’, gyda phob rhaglen yn dilyn ôl troed aelodau, cyn aelodau a ffrindiau’r mudiad er mwyn gweld lle mae’r sgiliau a’r profiadau maent wedi eu derbyn drwy’r mudiad wedi mynd a nhw mewn bywyd.

Bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o westai gyda rhai yn aelodau lle fel arfer ni fyddent yn cael llais, i rai eraill sydd wedi cyrraedd yn uchel iawn o fewn eu gyrfa ac sy’n gweithio mewn diwydiannau gwahanol fel y cyfryngau neu amaethyddiaeth.

Aelodau’r mudiad sydd yn rhedeg y podlediadau ac yn cyfweld â’r gwestai. Ymhlith yr enwau fydd yn ymddangos ar y podlediadau y mae Geraint Lloyd, Eirios Thomas, Meinir Howells, Delme Harries, Jess Robinson, Ifan Jones Evans ac Anni Llŷn.

Yn ôl Teleri Mair Jones, sydd hefyd ymddangos ar un o’r podlediadau, mae’n fodd arbennig o hybu gwaith y mudiad, meddai.

“Mae’n ffordd dda i ledaenu neges y mudiad pwysig hwn yma yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd hynod o wledig. Y mudiad efallai yw’r unig gysylltiad â phobl i rai unigolion.”

Fel un wnaeth gweld gwerth yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus, yr Eisteddfod a’r Rali flynyddol, yn ogystal â’r ochr gymdeithasol, mae hi’n teimlo bod yr amrywiaeth eang wedi ei lliwio hi fel person.

“Mae’r mudiad yn cynnig profiadau eang i unigolion a dw i’n bendant wedi elwa o’r mudiad ac yn gobeithio y bydd o’n dal i fynd am flynyddoedd fel bod fy mhlant i’n gallu ymuno pan maen nhw ddigon hen!”

Gellir clywed y podlediadau ar Anchor FM, a llwyfannau digidol eraill fel Spotify ac Apple Podcasts.