Protest gynharach yn erbyn ffracio (o wefan yr ymgyrch)
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod cais i chwilio am nwy siâl yn yr ardal.
Fe gafodd y penderfyniad ei setlo gan lythyr munud ola’ oddi wrth gwmni Dŵr Cymru yn rhybuddio bod peryg bychan o lygredd i ddŵr yn y ddaear.
Yn y diwedd, roedd Pwyllgor Craffu’r Cyngor yn unfrydol yn erbyn y cais ar ôl protest saith mis gan ymgyrchwyr lleol.
Ofni llygredd
Maen nhw’n ofni y byddai system o’r enw ffracio yn cael ei defnyddio i dynnu’r nwy o’r ddaear – mewn gwledydd eraill, mae’r broses honno – sy’n cynnwys pwmpio dŵr i chwalu’r graig lle mae’r nwy – wedi arwain at gwynion mawr am lygredd.
Yn union ar ôl y penderfyniad neithiwr, roedden nhw’n gorfoleddu ond yn cydnabod y byddai’r ymgais i chwilio am nwy ac olew’n debyg o barhau.
“R’yn ni wedi ennill y frwydr, ond d’yn ni ddim wedi ennill y rhyfel,” medden nhw mewn neges drydar. “Mae yna lawer i’w wneud o hyd, ond mae hwn yn ganlyniad ffantastig.”
Cwmni am apelio
Eisoes, mae cwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad ac mae arweinydd y Cyngor eisiau i Lywodraeth Cymru ymyrryd mewn materion o’r fath.
Fe ddywedodd Gordon Kemp wrth Radio Wales y dylai’r Llywodraeth roi arweiniad i gynghorau lleol.
Roedd y penderfyniad wedi ei ohirio unwaith er mwyn i’r cynghorwyr ymweld â safle’r drilio arbrofol.