Mae teulu y cyn-ddarlithydd prifysgol a oedd yn hedfan awyren a blymiodd i’r ddaear oddi ar arfordir Ynys Mon ddechrau’r wythnos, wedi talu teyrnged i “beilot profiadool”.

Roedd yr Athro David Last yn hedfan o Landudno i Sir Fon pan aeth i drafferthion toc ar ol cinio dydd Llun (Tachwedd 25)

“Roedd David yn beilot profiadol,” meddai ei deulu heddiw. “Ond yn bwysicach i ni, roedd yn benteulu – yn dad cariadus, gwr, brawd, taid, ewythr ac yn ffrind.

“Rydan ni wedi torri’n calonnau.”

Roedd  yr Athro David Last yn 79 oed ac yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yn beiriannydd ac yn arbenigwr ym maes technoleg GPS.

Cefndir

Daeth adroddiadau am ddamwain awyren fechan yn y môr yn ardal Ynys Môn drwodd prynhawn Llun (Tachwedd 25).

Mi ddaru’r gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad ger Ynys Seiriol. Cafodd yr awyren ei weld ddiwethaf ddwy filltir i’r gogledd ddwyrain o Benmon ar ôl colli cysylltiad radar tua 12.47yp.

Cafodd tri bad achub o Landudno, Moelfre a Biwmares – ynghyd â hofrennydd o Gaernarfon – eu galw i’r digwyddiad am 12.57yp ddydd Llun.