Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad wedi i ddyn 20 oed farw ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn y Drenewydd.
Cafodd y dyn ei daro’n wael yn y ddalfa ar fore Sadwrn, Tachwedd 23 a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad llawn a’u bod wedi cyfeirio’r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Fe fydd yr IOPC yn cynnal ymchwiliad annibynnol a dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn cydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad.
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar yr adeg drist hon,” meddai’r heddlu mewn datganiad.