Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ar ymweliad a gogledd Cymru heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25) wrth i Geidwadwyr Cymru lansio eu maniffesto.
Bydd yn addo creu Bargen Twf y Gororau er mwyn rhoi hwb economaidd i gymunedau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Yn y cyfamser mae’r gwrthbleidiau wedi cwestiynu nifer o’r polisïau gafodd eu cyhoeddi ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn Telford ddoe (dydd Sul, Tachwedd 24).
Mae’r blaid yn addo buddsoddi mewn isadeiledd a diwydiant, yn ogystal â sicrhau bod dymuniad y Cymry’n cael ei wireddu o safbwynt gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r maniffesto hefyd yn brolio dod â chwmni moduron Ineos i Ben-y-bont ar Ogwr ym mis Medi, ac mae disgwyl i hynny arwain at greu 500 o swyddi newydd.
Cafodd y maniffesto ei lansio’n swyddogol ddoe ond mae hefyd yn cynnwys sôn am nifer o feysydd sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Lafur Cymru.
Byddai’r blaid yn sicrhau ffordd osgoi’r M4, meddai’r maniffesto, a hynny’n groes i benderfyniad Llafur eleni am resymau ariannol.
Dywed y blaid eu bod nhw’n “uchelgeisiol” o safbwynt Cymru, ac y byddan nhw’n cefnogi nifer o’i sefydliadau, gan gynnwys S4C, yr Eisteddfod a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â’r cynllun i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Plaid Cymru a Llafur yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o berfformiad gwael ac o ddiystyru Cymru.