Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25) i hyfforddi athrawon mewn ysgolion cynradd i ddysgu mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Mesur yw hwn sy’n ceisio cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg heb gael effaith negyddol ar safon addysg mewn ysgolion cynradd.
Gyda’r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu bob blwyddyn, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod digon o staff cynradd i lenwi bylchau mewn ysgolion uwchradd.
Yn ôl tystiolaeth, mae athrawon cynradd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i swyddi parhaol ac mae gan nifer sylweddol ohonyn nhw gymwysterau i ddysgu mewn ysgolion uwchradd.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun ar gael i bob athro neu athrawes sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dysgu neu’n gymwys i ddysgu mewn ysgolion cynradd ac sydd â Statws Athro/awes Cymwys.
Fe fydd yr athrawon hynny’n mynd ar leoliad i ysgol uwchradd ac yn derbyn rhagor o hyfforddiant mewn swydd ym meysydd rheoli dosbarthiadau, cynllunio gwersi a chymorth arbenigol ar bynciau amrywiol.
Bydd ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn cael eu gwahodd i groesawu hyfforddeion.
‘Dulliau arloesol’
Yn ôl Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, mae’r cynllun hwn yn enghraifft o’r “dulliau arloesol” sy’n cael eu defnyddio i ddod o hyd i ragor o athrawon yng Nghymru.
“Bob wythnos rydw i’n ymweld ag ysgolion ledled Cymru ac yn aml rydw i’n cyfarfod ag athrawon cynradd sydd newydd gymhwyso ac sy’n chwilio am swyddi addysgu parhaol,” meddai.
“Ac i’r gwrthwyneb, rydw i hefyd yn cyfarfod penaethiaid ysgolion uwchradd sydd wedi ei chael yn anodd recriwtio athrawon ar gyfer swyddi addysgu allweddol, yn enwedig ar gyfer rolau addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dyma enghraifft o’r dulliau arloesol rydyn ni’n eu defnyddio i gefnogi dilyniant a datblygiad ein hathrawon, yn enwedig ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac i sicrhau, ar yr un pryd, bod gan ein hysgolion yr adnoddau y mae arnynt eu hangen i fodloni anghenion tirwedd addysgol sy’n newid.
“Mae hwn yn un ymhlith amryw o gamau rydyn ni’n eu cymryd i gadw rhagor o athrawon yn y proffesiwn ac i sicrhau bod ein hysgolion yn barod ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen.”
‘Naid sylweddol’ ond ‘ewch amdani’
Ond sut mae athrawon yn ymateb i’r cynllun?
“Roedd symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn eithaf hawdd o ran yr hyfforddiant,” meddai Rhys Locke, athro drama yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.
“Fe wnes i arsylwi am rai wythnosau ac yna’n raddol, fe ddechreuais i addysgu, gyda chymorth cyson gan fy nghydweithwyr.
“Roedd yna heriau – mae’r naid o’r cyfnod sylfaen i addysg uwchradd yn sylweddol – ond mae’r heriau hynny wedi fy ngwneud yn well athro yn y pen draw.
“Nawr, gallaf ganolbwyntio ar fy mhwnc, sef Drama – pwnc dw i’n hollol angerddol amdano.
“Os oes gennych chi angerdd am bwnc penodol ac eisiau canolbwyntio ar hynny, gan wneud hynny yn Gymraeg hefyd, yna fy nghyngor i fyddai… ewch amdani! Wnewch chi ddim difaru – mae’n brofiad newydd gwerthfawr, un a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes.”