Mae cwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi fel Gwyliau Seren Arian Cyf ar ôl i ddyn busnes brynu’r cwmni aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau’r mis.

Mae rheolwyr blaenorol Seren Arian wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi ail strwythuro ac ail agor cwmni newydd a fydd yn  gweithredu fel Gwyliau Seren Arian. Mae’r staff i gyd – ac eithrio dau-  wedi cael eu swyddi’n ôl, meddai’r rheolwr cyffredinol wrth Golwg360.

Fe aeth un o gwmnïau gwyliau enwoca’ Cymru i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau fis Hydref. Fe gollodd 12 o bobol eu gwaith gyda chwmni Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi bod yn trefnu gwyliau gartre’ a thramor ers mwy nag 20 mlynedd.

Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam ynghynt eleni.

Fe ddywedodd Gavin Owen, rheolwr cyffredinol newydd Gwyliau Seren Arian Cyf wrth Golwg360 mai dim ond “dau” o golledion swyddi sydd wedi bod. Mae Elfyn Thomas, cyn berchennog y cwmni yn gweithio i’r cwmni newydd fel rheolwr cyffredinol.

“Mae’r perchennog newydd Craig Porteous eisiau cadw’r cwmni’r un fath – a’r tîm fel oedd o,” meddai.

‘Dyfodol ’

“Rydan ni’n cadw profiad yr hen staff, mae gan y perchennog newydd gymorth ariannol da ac mae gennym ein cleientiaid ffyddlon. Mae popeth yn edrych yn dda ar gyfer y dyfodol,” meddai Gavin Owen.

“Mae pawb ar ben eu digon – wedi cael eu gwaith  yn ol,” meddai “Mae popeth yn ol fel arfer, mae’r siop yn brysur iawn,” meddai.

Ar hyn o bryd, dywedodd bod staff yn ffonio cwsmeriaid sydd wedi cael ad-daliadau am deithiau dan yr hen gwmni i weld os ydyn nhw eisiau mynd ar y teithiau gyda’r cwmni newydd.

“Does ’na neb yn colli arian ac rydan ni’n trio ein gorau i roi’r un teithiau ymlaen fel nad ydi pobl yn colli allan,” meddai.

“Mae pawb yn teimlo yn gyffrous iawn am y dyfodol,” meddai Gavin Owen wrth son am y dyfodol.