Mae’r ddau ddyn 18 oed o Gaerdydd a gafodd eu harestio yn Kenya wedi cael eu holi gan uned wrthderfysgaeth Cymru ar ôl iddyn nhw lanio ym maes awyr Heathrow ddoe.
Cafodd y ddau eu hanfon yn ôl i’r DU gan heddlu wrthderfysgaeth Kenya ddoe ar ôl cael eu harestio ger y ffin â Somalia. Roedd y ddau wedi diflannu o’u cartrefi yng Nghaerdydd dros wythnos yn ôl.
Mae’r ddau, Mohamed Mohamed Abdallah, o dras Somali, a Iqbal Shahzad, o dras Pacistanaidd, bellach wedi cael eu rhyddhau.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio gyda teuluoedd y ddau ddyn ac mae ymchwiliadau gyda’r awdurdodau yn Kenya yn parhau.
Roedd tad Mohamed, Abdirhman Haji Abdallah, wedi hedfan i Nairobi am ei fod yn poeni bod ei fab yn bwriadu ymuno â’r grŵp gwrthryfelgar Islamaidd al Shabab.
Yr heddlu’n dilyn
Roedd yr heddlu yn Kenya wedi datgelu ddoe bod y ddau wedi bod dan oruchwyliaeth ers iddyn nhw gyrraedd y wlad, a bod yr heddlu wedi dilyn eu symudiadau wrth iddyn nhw deithio o amgylch y wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Kenya, Charles Owino bod y ddau wedi cael eu hestraddodi i’r DU, nid eu rhyddhau.