Mae Tinopolis newydd gyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar gytundeb i ddarparu rhaglenni cylchgrawn i S4C.

Roedd amheuaeth y bore ma a oedd y cwmni o Lanelli, sy’n cynhyrchu rhaglenni cylchgrawn dyddiol Wedi 3 a Wedi 7 ar hyn o bryd, wedi llwyddo i gadw’r cytundeb, ar ôl i BBC Radio Cymru gyhoeddi bore ma bod S4C wedi ffafrio cwmi Avanti.

Ond mae S4C wedi cadarnhau o fewn yr awr ddiwethaf mai Tinopolis sydd wedi ennill y tendr i ddarparu rhaglen gylchgrawn brynhawn a nosweithiol, ynghŷd â rhaglen gylchgrawn nos Sul.

Dywedodd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands, ei fod yn edrych ymlaen i gydweithio â Tinopolis fel rhan o’r cynlluniau newydd o dan strategaeth ‘Gweledigaeth 2012 S4C’. Ychwanegodd y byddai’r cytundeb newydd yn rhoi cyfle i wneud arbedion ariannol sylweddol i S4C.

“Mae’r broses gomisiynu wedi bod yn her i’r cwmnïau cynhyrchu ac i S4C yn wyneb y toriadau yng nghyllid y Sianel ar gyfer 2012. Mae’n amlwg y bydd rhai cwmnïau ac unigolion wedi cael siom yn wyneb y cyhoeddiadiau diweddar.

“Ond mae’n rhaid pwysleisio y bydd cyfleoedd eraill i gynnig am gomisiynau a bydd y cyfle nesaf yn digwydd ar ddiwedd mis Hydref pan fydd yr ail Ffenestr Gomisiynu yn agor.”

Mae’r tendr gwerth uchafswm o £5.1 miliwn y flwyddyn i gwmni Tinopolis, ac fe fydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mawrth 2012.