Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi’n nodi bod “angen gwelliannau sylweddol” i’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn sawl maes.

Mae’n dilyn adolygiad o’r ffordd y caiff ansawdd y bwrdd iechyd ei lywodraethu.

Yn ôl yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, mae yna bryderon o ran sicrhau diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal maen nhw’n ei dderbyn.

Gallai’r gwendidau gael effaith negyddol ar allu’r bwrdd iechyd i nodi problemau ac ymateb iddyn nhw, meddai’r adroddiad.

Cafodd yr adolygiad ei sefydlu yn dilyn pryderon difrifol am wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd, ac fe wnaeth ystyried dull cyffredinol o lywodraethu ansawdd.

Er bod cryn sylw wedi’i roi i ariannu gwasanaethau a chyrraedd targedau, mae llai o sylw wedi’i roi i ansawdd a diogelwch cleifion yn gyffredinol, meddai’r adroddiad.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn galw am arweinyddiaeth gryfach ac ehangach o ran ansawdd a diogelwch cleifion, gan gyfeirio’n benodol at ddiwylliant o ofn a bwrw bai.

Mae hynny, meddai’r adroddiad, yn atal rhai aelodau o staff rhag mynegi eu pryderon, a hynny’n destun pryder ynddo’i hun.

O ran llywodraethu, mae’r adroddiad yn galw am atgyfnerthu trefniadau ar gyfer goruchwylio ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar lefel cyfarwyddiaethau.

Dylai arweinwyr fod yn fwy ymwybodol o rolau, a dylai cyfrifoldebau gael eu diffinio’n gliriach.

Yn bennaf, mae angen newid dulliau gweithredu er mwyn i gyfarwyddiaethau berchnogi ymatebion i bryderon a chwynion, meddai.

Mae pryderon eraill yn ymwneud â rheoli a nodi risg, rhoi gwybodaeth i gefnogi gwaith craffu, dosbarthu a hysbysebu am ddigwyddiadau.

… ond rhai camau da wedi’u cymryd

Er y gwendidau, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rai pethau da.

Mae’n tynnu sylw hefyd at yr effaith y mae’r arweinwyr newydd yn dechrau ei chael wrth fynd i’r afael â chyfres sylweddol o heriau.

Mae’r adroddiad yn gwneud 14 o argymhellion penodol i’r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys:

  • Nodi blaenoriaethau sefydliadol clir ar gyfer ansawdd gwasanaethau, a’u hadlewyrchu mewn Strategaeth Ansawdd wedi’i diweddaru;
  • Atgyfnerthu’r broses o nodi a rheoli risg ym mhob rhan o’i wasanaethau;
  • Egluro rolau ac atgyfnerthu arweinyddiaeth mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch, yn enwedig mewn perthynas â rolau’r Cyfarwyddwr Meddygol a’r Cyfarwyddwr Clinigol;
  • Nifer o gamau gweithredu er mwyn helpu i atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer craffu ar ansawdd a diogelwch a’u goruchwylio yn y sefydliad;
  • Ymgysylltu â’r staff er mwyn helpu i roi fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad newydd ar waith, ac er mwyn cymryd camau gweithredu ehangach i ddangos dull gweithredu cryfach mewn perthynas â dysgu sefydliadol.

‘Peri pryder’

Meddai Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae canfyddiadau ein hadolygiad ar y cyd yn peri pryder,” meddai Dr Kate Chamberlain, prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Er bod y Bwrdd Iechyd wedi parhau i ganolbwyntio ar ei gyllid a thargedau perfformiad eraill, a hynny’n briodol, nid yw wedi rhoi sylw dyledus i ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddo.

“Mae angen gweithredu ar frys er mwyn unioni’r sefyllfa a helpu staff rheng flaen i ddarparu gofal sy’n ddiogel ac o ansawdd uchel.”

‘Her sylweddol’

“Mae her sylweddol yn wynebu’r Bwrdd Iechyd,” meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

“Mae agweddau sylfaenol ar y trefniadau llywodraethu ansawdd wedi mynd ar eu gwaethaf ac mae angen cymryd camau brys yn awr i ailadeiladu’r systemau mewnol hynny ac ail-feithrin hyder o’r tu allan yn y Bwrdd Iechyd.

“Mae’r arweinwyr newydd, y mae ganddynt syniad clir o’r newidiadau sydd eu hangen, yn cynnig rhywfaint o obaith ond bydd angen iddynt gymryd camau cadarn a chyflym er mwyn rhoi’r newidiadau niferus sydd eu hangen ar waith.”