Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Ellie Bryan, y ddynes 18 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Comins Coch ger Aberystwyth nos Sadwrn (Tachwedd 16).
Roedd hi’n teithio mewn car Vauxhall Astra oedd mewn gwrthdrawiad â char arall.
Mae gyrrwr y car roedd hi’n teithio ynddo mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac fe ddaeth i’r amlwg bellach fod trydydd car ynghlwm wrth y digwyddiad hefyd.
Mae dynes 18 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
“Rydym yn torri’n calonnau o golli Ellie,” meddai ei theulu mewn datganiad.
“Byddwn ni i gyd yn gweld ei heisiau hi. Roedd Ellie yn ferch, chwaer ac wyres gariadus.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr adeg dorcalonnus hon. Byddem yn gwerthfawrogi cael amser i alaru’n breifat.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth.