Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddn 64 oed sydd ar goll o ardal Llanelli.

Does neb wedi gweld Philip Magor yn ei dref ei hun ers 9.30yb ddydd Mercher diwethaf (Tachwedd 6). Yn y cyfamser, mae lluniau teledu cylch-cyfyng yn ei ddangos yng Nghaerdydd ddydd Iau (Tachwedd 7). 

Does ganddo ddim car, felly mae’n debygol iawn o fod yn teithio ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae disgrifad ohono yn dweud ei fod yn ddyn byr – 5′ 5″ –  o gorffolaeth solet, gyda lliw haul ysgafn ar ei groen, llygaid glas a gwallt byr, llwyd.

Mae’n cario rycsac glas, ac mae ganddo gysylltiadau â Chaerfyrddin, Pontarddulais ac Aberystwyth, ynghyd â ffrindiau hefyd ledled Lloegr.