Cafodd dynes 69 oed ei lladd pan wnaeth ei gŵr arllwys olew sglodion drosti, yn ôl erlynwyr.
Mae Geoffrey Bran, 71, wedi’i gyhuddo o lofruddio’i wraig yn eu siop sglodion, Chipoteria, yn Hermon yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn sawl ffrae.
Cafodd Mavis Bran ei llosgi’n ddifrifol dros ei chorff, a bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach yn dilyn y digwyddiad fis Hydref y llynedd. Mae erlynwyr yn dadlau nad damwain oedd y digwyddiad.
Roedd y pâr yn berchen ar sawl eiddo a busnes yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw agor y siop sglodion drws nesaf i’w cartref fis Ionawr y llynedd. Clywodd y llys fod straen ariannol ar eu priodas ac mae ffrind i Mavis Bran yn dweud bod y berthynas wedi dirywio dros gyfnod o fisoedd, a bod ei gŵr wedi “troi’n gas”.
Dywedod ffrind arall fod Mavis Bran wedi rhedeg adref ar Hydref 23 y llynedd, heb ddillad amdani o’i chanol i fyny, a dweud ei bod hi wedi cael ei llosgi ag olew. Fe wrthododd fynd mewn ambiwlans i’r ysbyty, er bod ei chroen yn dod i ffwrdd.
Yr amddiffyniad
Yn ôl Geoffrey Bran, roedd ei wraig wedi bod yn coginio pysgod pan lithrodd hi a chydio yn y peiriant ffrio pysgod, gan arllwys olew drosti ei hun.
Ond dywedodd ffrind arall i Mavis Bran ei bod hi wedi ei ffonio yn dweud bod ei gŵr wedi taflu olew ati a bod angen cymorth arni.
Roedd Mavis Bran yn “crynu”, meddai, ond roedd ei gŵr yn dal yn gweini cwsmeriaid er iddi ddweud wrtho am gau’r siop.
Mae Geoffrey Bran yn gwadu llofruddio’i wraig, ac mae’r achos yn parhau.