Mae adroddiadau bod dyn wedi marw yng nghastell Caernarfon yn dilyn digwyddiad Sul y Cofio ddoe (Tachwedd 10).
Mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei daro’n wael, a bod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw toc cyn canol dydd.
Bu’n rhaid symud pobol o’r safle wrth i’r dyn dderbyn triniaeth ger tŵr ar Y Maes.
Fe laniodd yr ambiwlans awyr ar y safle i gynorthwyo’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans.