Mae Aelod Cynulliad wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “ddig” ac yn bwriadu “cysylltu gyda’r Heddlu” ar ôl gweld poster atal treisio “hollol annerbyniol”.

Fe fu sawl neges negyddol ar wefan Twitter heddiw ynghylch poster atal treisio sy’n galw ar ferched “i yfed yn synhwyrol”  a  “pheidio â bod yn ddioddefwraig.”

Mae wyneb dynes ar y poster gyda’r geiriau “Treisio – Peidiwch â bod yn ddioddefwraig, yfwch yn synhwyrol. Mae alcohol yn ffactor mewn dwy ran o dair o achosion treisio.”

Mae logos ‘Abertawe Mwy Diogel’  Heddlu De Cymru a llinell gymorth  ‘New Pathways’ ar y poster. Mae’n rhan o ymgyrch Cadw De Cymru yn ddiogel.

‘Hollol annerbyniol’

“Dwi ddim yn gallu credu bod poster fel hwn wedi cael ei gymeradwyo gan yr Heddlu. Mae e’n hollol annerbyniol rhoi neges i fenywod i beidio yfed rhag ofn y bydd hwn rhywsut yn arwain at unigolyn yn cael ei threisio – dyna rwyf i yn darllen o’r poster yma ta beth,” meddai Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru wrth Golwg360.

“Mae’r neges ar y poster yr un mor sarhaus, gan ddweud wrth fenywod am ‘beidio bod yn ddioddefrwaig’. Pwy fyddai eisiau dioddef o’r trais yma, wedi’r cyfan? Mae’n hollol hurt,” meddai’r AS wrth ymateb i’r poster.

“Dwi’n bwriadu cysylltu gyda’r Heddlu i ofyn iddynt beidio â dosbarthu’r posteri yma. Dwi eisiau gwybod pwy sydd yn gyfrifol, ar ba sail maen nhw wedi ffurfio polisi sy’n ennyn menywod i yfed yn synhwyrol oherwydd y cyswllt gyda threisio.

“Dwi yn ddig iawn hefyd oherwydd mae cymaint o bobl yn dadlau mai ‘bai’ menywod yw e weithiau os ydynt yn yfed, ac os ydynt wedyn yn cyhuddo rhywun o’u treisio. Dyw hwn ddim yn mynd i helpu’r ymgyrch i stopio dynion rhag treisio menywod – ac efallai bydd e’n neud y system yn waeth,” meddai.

‘Rhoi’r bai ar fenywod’

Fe ddywedodd aelod o’r cyhoedd oedd yn dymuno aros yn ddienw wrth Golwg360 ei bod wedi gweld y poster ar wefan Twitter. “Ro’n i’n flin yn syth. Alla i ddim coelio bod nhw wedi’i gyhoeddi,” meddai.

“Mae o fatha bod o’n rhoi’r bai ar fenywod am gael eu treisio. Dw i’n meddwl bod o’n broblem gyffredinol mewn cymdeithas – bod gormod o bobl yn rhoi’r bai ar fenywod os dydych chi ddim  yn gwisgo’n iawn neu os ydach chi’n  feddw. Dim ots be ti’n gwisgo neu pa mor feddw wyt ti – dyw merched ddim yn haeddu hynny,” meddai.

‘Siomedig’

Fe ddywedodd bod y poster yn gwneud iddi deimlo’n “hynod siomedig.”

“Petai rywbeth fel hyn yn digwydd i mi, basa’n gwneud i mi deimlo na fedrwn i fynd at yr heddlu. Sut fedrwch chi gredu y bydden nhw’n eich trin chi’n deg os mai dyma’r math o bethau maen nhw’n credu sy’n dderbyniol fel posteri cyhoeddus.

“Dim ots pa mor feddw ydi merch neu pa mor fyr yw ei sgert hi – ddim ei bai hi ydi o. A dyma awgrym yn y poster.

“Hyd yn oed os ydi dwy ran o  dair o ferched wedi yfed neu’n feddw, ‘dw i dal ddim yn deall beth sydd gan hynny i wneud efo’r ffaith bod nhw’n cael eu treisio. Ddim nhw yw’r bai.”

Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb gan Heddlu De Cymru.

Stori: Malan Wilkinson