Mae cwest wedi clywed bod gweddillion awyren a blymiodd i’r Sianel gan ladd Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd, wedi cael eu golchi ymaith.

Cafodd yr Archentwr 28 oed ei ladd yn y digwyddiad, ynghyd â’r peilot David Ibbotson, ar Ionawr 21.

Daethpwyd o hyd i’w gorff yn y môr ar Chwefror 6 a chafodd archwiliad post-mortem ei gynnal.

Dyw corff y peilot ddim wedi cael ei ddarganfod.

Clywodd y cwest fod teulu Emiliano Sala wedi talu am archwiliad pellach ar Hydref 22, ar ôl i’r ymchwiliad swyddogol gan y Gangen Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr ddod i ben.

Ond fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod bryd hynny mai darnau yn unig o’r awyren oedd ar ôl ar y safle.

Fe fu’r teulu’n ymbil ar yr awdurdodau i symud gweddillion yr awyren o’r môr. 

Mae’r crwner Rachael Griffin bellach wedi gofyn i’r Gangen Ymchwiliadau am eglurhad ynghylch eu penderfyniad i beidio â symud y gweddillion, yn enwedig ar ôl cael gwybod fod olion carbon monocsid yng nghorff Emiliano Sala.

Eglurhad yr awdurdodau

Yn ôl Geraint Herbert, y prif ymchwilydd, cafodd y penderfyniad i beidio â symud y gweddillion ei wneud am fod pryderon am ddiogelwch wedi’u codi heb fod angen gweld yr awyren.

Roedd angen ystyried diogelwch swyddogion oedd yn plymio i’r môr, ynghyd ag ymarferoldeb symud y gweddillion, meddai.

Mae’n dweud na fyddai’n bosib dweud yn sicr a oedd difrod i’r awyren wedi cael ei achosi cyn, yn ystod neu ar ôl y gwrthdrawiad.

Mae un person – dyn 64 oed o Ogledd Swydd Efrog – wedi’i arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy weithred anghyfreithlon, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mae’r crwner wedi gofyn i’r heddlu gadw samplau gwaed rhag ofn y bydd angen cynnal profion pellach.

Bydd gwrandawiad pellach ar Fawrth 16 ar ôl i ymchwiliad yr awdurdodau ddod i ben, ond fe all fod oedi yn ddibynnol ar ymchwiliad yr heddlu.