Mae’n rhaid i Gymru uno er mwyn dileu achosion o Islamoffobia sydd ar gynnydd ers refferendwm Ewrop yn 2016, yn ôl Leanne Wood.

Mae llefarydd cyfiawnder cymdeithasol Plaid Cymru’n noddi digwyddiad yn y Senedd rhwng 6 ac 8 o’r gloch heno (nos Fawrth, Tachwedd 5) i dynnu sylw at y sefyllfa, a hynny ar drothwy Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia.

Y siaradwyr fydd David Melding (aelod Cynulliad Ceidwadol), Saleem Kidwai (Cyngor Mwslimiaid Cymru), Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) a Jenny Rathbone (Llafur).

Roedd cynnydd o 89% yn nifer yr achosion o Islamoffobia cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, gyda deg heddlu yn gweld cynnydd o 50% yn nifer y troseddau casineb ar sail hil neu grefydd yn y tri mis cyn y refferendwm.

Cafodd 3,932 o droseddau casineb eu cofnodi yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, y nifer fwyaf erioed yng Nghymru, sydd bron â dyblu ers 2013.

Fe fu cynnydd o 53% mewn troseddau ar sail hil ers 2015-16, a 73% mewn troseddau ar sail crefydd yn yr un cyfnod.

‘Cymdeithas wedi cael ei pholareiddio’

Yn ôl Leanne Wood, canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 yw fod y gymdeithas wedi cael ei pholareiddio, a bod Mwslimiaid yn arbennig yn cael eu targedu.

“Dydy troseddau casineb ddim yn bod mewn facwwm,” meddai Leanne Wood.

“Ers refferendwm Brexit yn 2016, mae’r gymdeithas wedi cael ei pholareiddio’n fwy ac mae’r sgwrs wleidyddol wedi dod yn fwy gwenwynig.

“A phan fo prif weinidog y Deyrnas Unedig yn cymharu menywod Moslemaidd sy’n gwisgo’r burka ac yn eu galw’n ‘flychau post’, a phan all e gerdded i ffwrdd o unrhyw gerydd neu ganlyniad, yna mae gyda ni waith i’w wneud.

“Dydy Cymru ddim yn ddiogel rhag hyn.

“Mae Mwslimiaid wedi dod yn dargedau ar gyfer troseddau casineb ac yn wynebu cael eu tanseilio, eu neilltuo neu eu sarhau yn sgil Islamoffobia.

“Allwn ni ddim sefyll a gwylio.”