Mae “pobol wedi dychryn” ym Môn gyda bwriad Llywodraeth Cymru ‘i ddynodi tri chwarter yr ynys fel Ardal â Blaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar’.
Dyna ddywed Dafydd Idriswyn, sy’n Gadeirydd Unllais Môn, sef y corff sy’n cynrychioli holl gynghorau cymuned a thref yr ynys.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei ‘Fframwaith Datblygu Cenedlaethol’ fydd yn gosod yr agenda ar gyfer datblygiadau yng Nghymru am yr ugain mlynedd nesaf.
Y syniad yw defnyddio’r system gynllunio i ddatblygu economi lewyrchus a glân fydd o fudd i’r cymunedau.
Yn ôl y Fframwaith byddai’r drefn gynllunio yn ffafrio codi melinau gwynt a gosod paneli solar ar Ynys Môn.
Mae Arweinydd y Cyngor Sir eisoes wedi codi “pryderon dwys” am y syniad yma.
“Er bod Môn yn Ynys Ynni, nid yw hynny’n golygu y dylid ystyried bod mwyafrif yr Ynys ar gael ar gyfer cynnal mwy o ddatblygiadau ynni gwynt a solar newydd,” meddai’r Cynghorydd Llinos Medi.
“Rydym, fel nifer o drigolion a chymunedau lleol, yn bryderus iawn bod yr Ynys yn ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar, gyda phrin ddim buddion economaidd-gymdeithasol.
“Gall hyn gael effaith niweidiol sylweddol ar ddiwydiant twristiaeth yr Ynys ac ychwanegu ymhellach at broblemau eraill yng nghefn gwlad Cymru.”
Ymateb “syfrdanol” ar yr ynys
Mae cynghorau cymuned a thref yr ynys i gyd yn gwrthwynebu rhoi ffafriaeth i godi melinau gwynt a gosod paneli solar, yn ôl Cadeirydd Unllais Môn.
“Mae yna bethau da yn y cynllun yma, ond mae yno hefyd wendidau niferus,” meddai Dafydd Idriswyn.
“Mi fasa’n cael effaith ddifäol ar amaeth, twristiaeth a busnes ar yr Ynys.”
Ychwanegodd Dafydd Idriswyn fod “pobl wedi dychryn” ar Ynys Môn ar ôl clywed am syniad Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ymateb yn y fan yma wedi bod yn syfrdanol.
“Mae pobl wedi dychryn a ddim yn fodlon o gwbl, a tydan ni ddim yn bobl sy’n licio cyfarfod yn y canol yn y fan yma.”
Dim ymateb gan y Llywodraeth ar hyn o bryd
Bydd cyfnod yr ymgynghori ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dod i ben ymhen pythefnos, ac nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
“Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 15 Tachwedd a byddai’n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach,” meddai llefarydd y Llywodraeth.
“Bydd ymateb y cyngor yn cael ei ystyried gyda holl ymatebion eraill i’r ymgynghoriad. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymatebion yn amlinellu unrhyw newidiadau yr ydym yn bwriadu ei wneud maes o law. “