Mae tad un o’r ddau fachgen yn eu harddegau o Gaerdydd sydd wedi cael eu harestio gan heddlu gwrthderfysgaeth yn Kenya wedi dweud sut yr aeth i Affrica mewn ymdrech i achub ei fab.

Roedd Abdirhman Haji Abdallah, o Gaerdydd wedi hedfan i Nairobi  am ei fod yn poeni bod ei fab yn bwriadu ymuno â’r grŵp gwrthryfelgar Islamaidd al Shabab.

Roedd y ddau ffrind wedi diflannu o’u cartrefi wythnos yn ôl.

‘Pryderon’

Cafodd ei fab Mohamed Mohamed, sydd o dras  Somali, a Iqbal Shahzad, o dras Pacistanaidd, eu harestio tra’n ceisio croesi’r ffin i Somalia.

Dyw’r awdurdodau yn y DU na Kenya wedi cyhoeddi enwau’r ddau yn swyddogol hyd yn hyn.

Dywedodd Abdirhman Haji Abdallah ei fod wedi hysbysu’r awdurdodau yn Nairobi am ddiflaniad y ddau a’i fod wedi rhoi lluniau iddyn nhw hefyd.

Roedd y tad yn bryderus bod y ddau yn bwriadu ymuno â gwersyll hyfforddi terfysgwyr yn Somalia.

Dywedodd Abdirhman Haji Abdallah wrth y BBC yn Somalia bod yr heddlu yn Kenya wedi arestio ei fab yn Lamu ger y ffin rhwng Somalia a Kenya. Mae’r heddlu wedi ei ganiatau i weld ei fab  a dywedodd ei fod i weld yn “hapus iawn”.

‘Positif’

Yn ôl llefarydd ar ran heddlu Kenya mae’r ddau yn cael eu holi gan uned wrthderfysgaeth yr heddlu. Ond mae na obeithion y bydd y ddau yn cael eu halltudio yn ôl i Brydain ac na fydd unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth Alun Michael wedi canmol y gymuned am eu hagwedd “bositif”. Dywedodd fod y gymuned yn teimlo rhyddhad mawr o glywed bod y ddau wedi eu darganfod.